Y Ddalfa Fawr Ddiwethaf o Benwaig yn Nefyn
Rhagfyr 31, 1950
Mi roedd yn fore dydd Sul oer, ac yn brigo yn galed, a ninnau yn brysur yn cerdded o 6 Stryd y Llan i'r Groes (y groesffordd ynghanol y dref) yn Nefyn. Plentyn naw oed oeddwn ar y pryd, rhy ifanc i wisgo trowsus hir, a fy mhen glinniau yn oer wrth geisio cadw i fyny efo fy nhad Lawrence Owen a fy mrawd hynna Mike. Nid oedd y sgidiau hoelion mawr ar fy nhraed yn helpu'r achos. Roedd yr amser yn 4:30 o'gloch yn y bore, a Mam wedi codi yn gynnar i ddechrau'r tan, ac i wneud tri cwpanaid o Oxo i'r tri ohonom, cyn i ni ddechrau allan. Pysgotwr oedd fy nhad, a mi ‘roeddwn ar y ffordd i gyfarfod dau bysgotwr arall, Glyn Jones a'i frawd Gwilym, ar y Groes cyn cychwyn am y rhwydi penwaig.
Dal penwaig yn y gaeaf efo rhwydi oedd un o lawer o brofiadau da iawn gefais fel plentyn yn tyfu i fyny yn Nefyn. Yr oedd y dref yn enwog fel y brif benogfa yng Ngymru ers cannoedd o flynyddoedd. Hyd heddiw, dangosir tri pennog ar arfbais y dref, a'r llong hwylio ar dô yr hen Eglwys, i lawr y lôn o’n ty ni, yn dystiolaeth i ardal o forwyr. Yr oedd yn y dref gae yr un shiap a phennog, a’r cae yn hawdd i'w weld yn Tyn Coed o gopa Garn Boduan, y mynydd tu ôl i'r dref. A mi ‘roedd y dref hefyd yn llawn o straeon, yn enwedig gan hen bysgotwyr, am filoedd o benwaig yn cae eu dal, ac yn cael eu defnyddio i deilio'r caeau. Yr oedd yr amser o ddal llwythi wedi darfod ers ddechrau'r ganrif, ond mi ‘roedd rhai pysgotwyr yr ardal yn dal i ddefnyddio yr hen ffyrdd o ddal penwaig.
Yr oeddwn wrth fy modd ar y dydd Sadwrn pan ddywedodd fy nhad ein bod am osod rhwydi penwaig yn y pnawn. Y tro cyntaf i mi, ac os oedd y tywydd yn weddol, mi ‘roeddwn am gael mynd i'r rhwydi yn gynnar y bore wedyn, sef y bore dydd Sul bythgofiadwy hwnnw. Mi ‘roedd y pump ohonom, drwy prynhawn Sadwrn yn gosod y rhwydi yng nglan-y-mor Nefyn. Tynnodd fy nhad bedair o'i rwydi o'r sachau ogla-da, lle yr oeddent yn cael eu cadw dros yr haf, yng nghongl cwt glan-y-mor. ‘Roedd dwy ohonynt yn rwydi dwr bas i osod ar y traeth, a dwy yn rwydi dwr tyfn i osod allan yn y mor. Gosodwyd nhw allan ar y polion rhwydi oedd ymhobman yng nghongl traeth Nefyn amser hynnu, a ’roedd rhaid trwsio unrhyw ddamwain iddynt wedi ei wneud gan lygod bach dros yr hâf. ‘Roedd gan Glyn a Gwilym dair hefyd, dwy rhwyd dwr bas a un rhwyd dwr tyfn.
Yr oedd yn ben trei ar y traeth tua 4:00 or gloch y pnawn. Aethom a'r dair rhwyd dwr bas ar y gyrni oedd gan fy nhad i dynnu rhwyd (stori arall), ar draws y traeth i waelod Lôn Gam, allt igam-ogam a oedd yn dod i lawr i'r traeth. ’Roedd y rhwydi yn drwm, efo cerrig pob rhyw ddwy droedfedd ar hyd y gwaelod i gadw'r ochr isaf i'r rhwyd am waelod y môr. Ar yr ochr arall, roedd llwyth o gyrcs i gadw’r ochr uchaf am wyneb y dwr. Yr oedd y rhwydi wedi ei gwneud hefo lleinin cryf tywyll. ‘Roedd dwy handlan ar bob pen i'r gyrni, a rhwng y pump ohonom, ni gymrodd llawer o amser i gario'r rhwydi yn union ar draws y traeth. Ar ôl i Glyn a fy nhad fynd yn ôl efo'r gyrni i gymeryd gofal o'r rhwydi tyfn, mi osododd Gwilym, Mike a fi y dair rhwyd ben-yn-ben ar hyd y tywod. Roeddent yn cyrraedd yr holl ffordd o ben trei i fyny i ben llanw. Yr oedd angor ar y ddwy ben, a'r angor ben llanw wedi ei chladdu yng nghanol y cerrig o dan Caffi Huw Bryn Beuno yng ngwaelod Lôn Gam.
Lawrence Owen ar draeth Nefyn a "Swanings" tu draw i'r cychod ar y môr.
Tra ‘roedd hyn yn mynd ymlaen, ‘roedd Glyn a fy nhad wedi llwytho y bedair rhwyd dwr tyfn ar y gyrni ar tu ôl i'r hen gwch M155. Wedyn rhwyfo y cwch i'r "Swanings", fel ’roedd yn cael ei alw, lle yn y môr rhyw dair can llath allan i'r gogledd-ddwyrain o drwyn Nefyn. Yno gosodwyd y bedair rhwyd, eto ben-yn-ben, efo angor ar y pen môr, a bwi ar y pen llan. Yn ôl y traddodiad, yr oedd un pen i’r rhwyd yn y dwr tyfn yn rhydd i symud efo'r môr, yn bennaf er mwyn arbed damwain iddi oddiwrth morlouau a physgod mawr a fyddai yn canlyn y penwaig.
Yn ôl ar y lân, a'r hen gwch wedi ei angori erbyn y bore, mi eisteddodd pawb i lawr am gwpanaid o de o'r Calor Gas stove a oedd yng nghongl y cwt. ‘Roedd eistedd i lawr fel hyn yn y cytiau glân y mor efo dynion yr ardal, yn braf iawn i'w wneud, yn enwedig os oedd rhai o'r hen bysgotwyr fel Capten Richard Hughes (Dic Ffani), Capten John Jones (John Gongl), Capten Richard Lloyd (Dic Lloyd), neu Capten Baum yn bresennol. Yr oedd y pedwar wedi darfod gweithio ar ôl bod yn gapteiniau ar yr hen longau hwylio, ac yr oeddent yn llawn o straeon am wledydd tramor, straeon am bysgota yn Nefyn flynyddoedd yn ôl, neu straeon ysbrydion. Straeon bythgofiadwy, a difyr dros ben. Yr oedd yn dechrau tywyllu, a mi wnaethom frysio i orffen y tê, a gwneud ein ffordd yn ôl ar hyd y traeth. Roedd y môr yn dod i mewn ‘rwan, a hanner y rhwydi ar y traeth o dan y dwr. Roedd popeth yn edrych yn iawn wrth i ni gerdded i fynu Lôn Gam ar y ffordd yn ôl i 6 Stryd y Llan. Gwnaethom drefnu i gyfarfod efo Glyn a Gwilym ar y Groes yn Nefyn yn y bore.
Mi ‘roedd hi dipyn bach wedi 4:30 o'gloch fore Sul pan droion y gongl i Stryd y Plas o Stryd y Llan wrth ymyl Plas Bach. Plas Bach oedd ty Nurse Jones. Dynes dda iawn, bydwraig y plwyf, a nyrs gwerth chweil. Bu yn trafaelio o gwmpas yr ardal yn ei Austin Seven bach du, yn cymorthi geni babanod, yn helpu'r gwragedd ifanc efo'r plant, ac yn troi dosbarthu ffisig i'r cleifion o'i thy. Ar y pryd, roedd yn well gan rhai pobl fynd i weld Nurse Jones, na mynd i weld y doctor lleol. A mae llwythi o bobl, rwan yn 60 i 80 blwydd oed, mewn dyled mawr i'r gwaith a wnaeth Nurse Jones. I blant yr ardal wrth gwrs, y stori oedd fod babanod newydd yn dod efo Nurse Jones yn ei Austin Seven yr holl ffordd o'r Garreg Lefain uwchben Nefyn.
Aethom i fyny Stryd y Plas i'r Groes. Nid oedd yn noson dywyll iawn. Er fod y lleuad ddim yn llawn, yr oedd ei golau a'r barrug caled yn goleuo'r ardal i gyd. ‘Roedd y ffordd yn wyn efo barrug, a hoel ein traed ni ar y lôn wrth gerdded. Nid oedd neb yn siarad rhag ofn deffro pobl, yn enwedig am ei bod yn fore dydd Sul. Dydd Sul yng Ngymru yn y pumdegau oedd dydd addoli, a mi ‘roedd pawb i fod yn yr eglwys neu yn y capel. Ychydig iawn o bobl oedd yn gorfod gweithio, a mi ‘roeddwn yn teimlo yn ddigon annifyr yn mynd i shop hen Mrs Ellis i brynu papur dydd Sul. Ond nid oedd neb i fod yn pysgota ar y Sul !! Pan gyrrhaeddom y Groes, daeth Glyn a Gwilym i lawr Stryd Fawr. Wedi “hello” hanner-cysglyd, aeth y pump ohonom i fynu yr allt, heibio’r Eglwys newydd ar y dde, y Nanhoron Arms Hotel ar y chwith, ac heibio'r Gof Golofn ar Stryd Dewi Sant. Pan droion am Lôn Gam, yn glir o'r tai, dyma ddechrau siarad mwy. Yr oedd y sgwrs i gyd am y penwaig a faint oeddan ni am ddal. Heb leuad llawn, yr oedd y penwaig yn siwr o ddod i'r lan. Ac heb fordan yn y môr i oleuo'r rhwyd, nid oedd dim i ddychryn y penwaig i ffwrdd. Ychydig iawn oeddan ni yn gwybod ar y pryd, beth oedd i ddigwydd ar y traeth mewn dipyn bach o amser.
Yr line goch yn dangos lle gosodwyd y rhwydi ar traeth Nefyn y noson honno.
Pan droiasom yr ail gongl ar Lôn Gam, Gwilym oedd y cyntaf i ddweud fod y rhwydi ar y traeth yn llawn o bysgod. Yr oedd ganddo lygaid da iawn. Dyma frysio dipyn bach mwy, ac ar ôl troi y trydydd tro, mi ddaeth hi yn glir i pawb. Yr oedd yno gannoedd o benwaig yn y rhwydi, yr holl ffordd o ben trei i fynu i ben llanw. Pan gyrrhaeddasom y tywod, yr oedd pawb wedi rhyfeddu, wedi dychrun braidd, wrth weld faint o bysgod oedd wedi eu dal. Dyma Glyn a fy nhad yn dangos i ni sut i dynnu pennog o'r rhwyd, cyn cychwyn am y cwt lan-y-môr, y cwch, a'r rhwydi allan yn y "Swanings". Dal y pennog yn un llaw, tynnu'r lleinin o'i gills, a chodi y rhwyd dros ben y pysgodyn i'w gael yn rhydd efo'r llaw arall. Gwaith caled iawn, yn plygu drosodd ar hyd y bedlan, efo dwylo gwlyb yn rhewi yn oer, a scales y pysgod ym mhob man. Ar ôl tynnu y penwaig, yr oeddant yn cael eu llychio i lwythi bach ar y tywod wrth y rhwyd. Yr oedd y tri ohonom wedi bod yn brysur am ryw awr cyn i Glyn a nhad ddod i'r lân i’n hochor ni o'r traeth. Ond un rhwyd ddyfn oedd yn y cwch, ac yn llawn o bysgod. Efo gymaint o benwaig, yr oedd yn well ganddynt ddod a un rhwyd yn ôl i'r lân pob tro, a gwneud fwy o dripiau. Yr oedd y morlo allan yno hefyd meddai Glyn, yn llenwi ei fol efo pysgod hawdd-i'w-dal. Mi darodd Glyn y morlo efo rhwyf ar ei ben, ond dal i fwyta wnaeth a gadael ond pennau y penwaig yn y rhwyd! Yr oedd y morlo yn berygl braidd. Os y buasai'n clymu ei hun rywsut yn y rhwyd, a hanner y rhwyd yn y cwch, buasai efallai yn tynnu ochor y cwch i'r môr wrth nofio i ffwrdd. “Mi ddoi a gwn efo fi tro nesaf Lawrence i saethu’r diawl” medda Glyn. Gofynnodd fy nhad i Mike fynd adref yn sydyn i nôl yr hen bram oedd gan fy Mam i fy mrawd bach Terry. Yr oedd Terry rwan yn dair oed, a ddim yn defnyddio y pram byth mwy. Mi fyddai’r pram yn hwylus i symud y penwaig oddi ar y traeth.
Wel i wneud y stori yn fyrrach, aeth y pram yn ol ac ymlaen, i fyny ac i lawr y traeth, llwythi a llwythi o weithiau, yn llawn o benwaig. Roedd rhaid bod yn brysur o achos fod y môr yn dod yn ôl i mewn. Y fi oedd yn codi'r penwaig oddi ar y tywod, llwytho nhw yn y pram, a’u cael nhw oddi ar y traeth. Yr oeddwn yn dadlwytho y cwbl i gyd wrth y dwr ffresh oedd yn rhedeg allan o dan waelod Lôn Gam wrth Cafe Huw Bryn Beuno. Gwaith caled a phrysur iawn. A hefo mwy o'r rhwydi yn dod yn ôl o'r "Swanings", a Glyn a fy nhad yn tynnu y penwaig hefyd, yr oedd yna ddigon o bysgod i mi gasglu i fyny efo'r pram. Tua 8 o'gloch, aeth fy nhad i fyny i Nefyn i ddeffro Jack Pen-y-Graig. Yr oedd gan Jack lori a digon o sachau i ddal y penwaig. Pan ddaethant yn ôl, dyma ddechrau llwytho y penwaig i'r sachau, a'u cyfri ar yr un amser. Yr oeddan ni yn medru cael tua cant a hanner o benwaig mewn un sach. Yr wyf yn cofio yn glir gweld Glyn, Jack a fy nhad yn codi'r sachau i'r lorri ar waelod Lôn Gam. Yr oedd yno tua un ar bymtheg o sachau, efo tua dwy fil pedwar cant o benwaig u’w rhanu rhwng teulu Glyn a’n teulu ni.
Yr wyf yn cofio cyrraedd adref tua deg o'gloch bore dydd Sul, a Mam yn deud fod rhaid i mi gael bath. Fy nillad yn llawn o scales pysgod, a rhai i fynu fy nhrwyn, yn fy nglystiau, ac yn dew yn fy nghwallt! Nid wyf yn cofio cael y bath, ond mi geis i fath rwy'n siwr. Heb ystafell molchi, na dwr poeth, na gwres yn y ty, yr oedd cael bath yn uffern o brofiad. Rhaid tynnu allan y twb, a berwi'r dwr ar y tân, a wedyn i mewn i'r twb o flaen y tân. Yr oedd rhaid disgwyl erbyn dydd Llun, dydd cyntaf y flwyddyn 1951, cyn dechrau gwerthu'r penwaig. Yr oedd y gair wedi mynd trwy y dref fod penwaig ar werth yn 6 Stryd y Llan, ac yn y Maes lle yr oedd Glyn a Gwilym yn byw. A penwaig gwerth chweil oeddan nhw hefyd, yn union fel yr hen benwaig Nefyn, yn drwm efo boliau mawr, rhai yn foliau meddal, a rhai yn foliau caled. Yr oedd pobl yn nrws y ty yn prynu pob munud, a'r penwaig yn cael eu gwerthu am swllt y dwsin - ceiniog yr un. Ar ôl y rhyfel, yr oedd yn amser drwg ym Mhydain, efo llawer iawn o dlodi yn ardaloedd gwledig Cymru. Yr oedd pawb yn yr ardal yn cymeryd mantais felly, a phob teulu bron yn prynu penwaig. A'r hen bobl Nefyn wrth gwrs yn cofio yr amser pan oedd penwaig fel hyn u'w cael yn y plwyf yn aml iawn. Aeth fy Mam a dau ddwsin i fy Nain yn y Fron, er mwyn iddi cael piclo y penwaig. Aeth a llwyth hefyd i'w theulu yn Llyn, yn Llangwnadl, Sarn, a Phen Groeslon. Nid ydwyf wedi bwyta pennog picl ers llawer dydd, ond ‘rwyf yn cofio'r blas da yn fy ngheg byth ers hynny. Gwerthwyd yr holl benwaig mewn dim amser o gwbl.
Mor bell a ’rwyn gwybod, dyna'r ddalfa fawr ddiwethaf o benwaig yn Nefyn. Aeth fy nhad, a llawer o bysgotwyr, ymlaen i ddal dwsinnau, efallai cannoedd, o benwaig yn y blynyddoedd wedi hynny, ond daeth dim dalfa yn agos i'r ddalfa fawr honno, ar ddydd Sul, Rhagfyr 31, 1950.
Dr. Brian Owen
Emmaus, PA, USA
Top of Page